Mae’r Mesur Ymadael yn “hollol annemocrataidd”, yn ôl Gweinidog Brexit yr Alban, Mike Russell.

Fe ddaeth ei sylwadau wrth iddo fynnu na fyddai’r Alban yn cyfaddawdu yn y ffrae tros bwerau sydd wedi’u datganoli heb fod newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud.

Mae Holyrood eisoes wedi gwrthod y ddeddfwriaeth ac yn ôl Mike Russell, mae’n “tanseilio’r holl setliad cyfansoddiadol” ac yn rhan o ymgais i “gipio grym” oddi ar weinyddiaethau datganoledig.

Wrth annerch cynhadledd yr SNP yn Aberdeen, dywedodd: “Rydym yn symud tuag at sefyllfa lle mai’r Torïaid fydd yn cael penderfynu, dim ots beth yw barn yr Alban.”

Wfftio ymdrechion

Yn ôl Mike Russell, mae Llywodraeth Prydain wedi wfftio’r holl ymdrechion i sicrhau cyfaddawd.

“Mae yna rai pethau na fedrwch chi gyfaddawdu yn eu cylch, a rhai pobol na fedrwch chi gyfaddawdu â nhw,” meddai.

“Allwn ni ddim cyfaddawdu os yw difrod diwrthdro yn cael ei wneud i’r Alban ac i bawb sy’n byw yma. Allwn ni ddim cyfaddawdu pe bai’r canlyniad yn difrodi ein gwlad a’i democratiaeth.”

Ychwanegodd ei fod yn rhagweld y posibilrwydd y gallai’r Alban aros yn y farchnad sengl a’r undeb dollau.