Mae un o fawrion y byd pêl-droed, Kenny Dalglish wedi cael ei urddo’n farchog fel rhan o Anrhydeddau Pen-blwydd Brenhines Loegr. 

Mae’n derbyn yr anrhydedd am ei gyfraniad i’r byd pêl-droed, i waith elusennol ac i ddinas Lerpwl, ac yntau’n flaenllaw yn y frwydr am gyfiawnder i deuluoedd trychineb Hillsborough yn 1989.

Cafodd ei eni yn Glasgow, ac fe gynrychiolodd ei wlad 102 o weithiau, gan sgorio 30 o goliau. Fe ddechreuodd ei yrfa yn ei ddinas enedigol, yn chwarae i Celtic. Sgoriodd e 167 mewn 322 o gemau cyn symud i Lerpwl.

Yng nghrys coch Lerpwl, fe sgoriodd e 172 o goliau mewn 515 o gemau, a chael ei benodi’n rheolwr yn dilyn trychineb Heysel yn 1985, ac yntau’n dal i chwarae ar yr un pryd.

Roedd hefyd yn rheolwr ar achlysur trychineb Hillsborough yn Sheffield ar Ebrill 15, 1989, pan fu farw 96 o gefnogwyr. Fe fu’n flaenllaw iawn yn y frwydr am gyfiawnder oedd wedi para bron i 30 o flynyddoedd.

Yn niwedd ei yrfa, roedd yn rheolwr ar Blackburn pan enillon nhw Uwch Gynghrair Lloegr yn 1994-95 cyn symud at Newcastle, Celtic ac yn ei ôl i Lerpwl.

Jermain Defoe

Mae’r pêl-droediwr Jermain Defoe wedi derbyn OBE am ei waith elusennol gyda Sefydliad Jermain Defoe, a gafodd ei sefydlu yn 2013.

Mae’r Sefydliad yn cefnogi plant digartref, diniwed a rhai sy’n cael eu camdrin ar ynys St. Lucia yn y Caribî, ac sydd bellach yn gweithredu yng ngwledydd Prydain.

Fe ddaeth i amlygrwydd ehangach drwy ei gyfeillgarwch â Bradley Lowery, bachgen chwech oed fu farw o fath prin o ganser fis Gorffennaf y llynedd.

OBE

Ymhlith y sêr eraill o’r byd chwaraeon i gael eu hanrhydeddu mae’r paffiwr Anthony Joshua, y bencampwraig Olympaidd y Gaeaf Lizzy Yarnold, pennaeth Prydain yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf Mike Hay, cyn-Brif Weithredwr Undeb Rygbi Lloegr Ian Ritchie a chyn-gyfarwyddwr tenis Wimbledon Sarah Clarke (OBE).

Hefyd yn derbyn OBE mae Roisin Wood, prif weithredwr elusen gwrth-hiliaeth Kick It Out, yr hyfforddwraig ceffylau Lucinda Russell a’r cyn-chwaraewr hoci Richard Leman.

MBE

Yn derbyn MBE mae Menna Fitzpatrick, y bencampwraig sgïo Paralympaidd o Gymru, a’i thywysydd Jen Kehoe, yn ogystal â’r chwaraewraig bêl-droed Jess Fishlock.

Hefyd yn derbyn yr un anrhydedd mae Steve Elworthy (cyn-gricedwr a rheolwr gyfarwyddwr Bwrdd Criced Cymru a Lloegr), y gyn-athletwraig Diane Modahl, y chwaraewr pêl fasg cadair olwyn Simon Munn, a’r marchogwr Olympaidd William Fox-Pitt.

Yn derbyn GBE mae Syr Craig Reedie, llywydd Albanaidd Asiantaeth Gwrth-gyffuriau’r Byd yn y byd athletau.

Y rhestr yn llawn