Mae criw wedi lansio ymgyrch ffurfiol sy’n galw am ail refferendwm ar aelodaeth gwledydd Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.

Bwriad ‘Best for Britain’ yw sicrhau “pleidlais y bobol” yn 2019 ar y cytundeb fydd gan Llywodraeth Theresa May i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Byddai’r papur pleidleisio yn rhoi’r dewis i bobol gadw gwledydd Prydain o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Tros yr Haf bydd Best for Britain yn cynnal ymgyrch yn pwyso am ail bleidlais Brexit, ac mae ganddyn nhw gefnogaeth ariannol y biliwnydd George Soros.

Eu gobaith fyddai cynnal refferendwm fis Mawrth nesaf.

Sut mae hyn am weithio?

Yn ôl Best for Britain, byddai modd cynnal ail refferendwm drwy ddiwygio’r ddarpar Deddf Cytuno a Gweithredu’r Ymadael, sydd i’w thrafod yn Nhŷ’r Cyffredin yn yr hydref.

Pe bae mwyafrif o Aelodau Seneddol yn cefnogi diwygio’r Ddeddf, byddai Llywodraeth Prydain yn gorfod cynnal pleidlais ar ei thelerau ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd cyn dyddiad swyddogol Brexit, sef Mawrth 29, 2019.

A phe byddai pleidleiswyr yn gwrthod cynlluniau Theresa May, ni fyddai Brexit.

Dywedodd llefarydd Best for Britain: “Mae yn briodol bod y bobol yn cael penderfynu terfynu ein cytundeb presennol [gyda’r Undeb Ewropeaidd] ar ôl cael y cyfle i’w gymharu gyda’r cytundeb Brexit.

“Mae yn fater syml: gadewch i’r ddêl orau ennill.”