Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi cynllun ariannol gwerth £1m a fydd yn galluogi canolfannau crefyddol i amddiffyn eu hunain rhag troseddau atgasedd.
Fe fydd y nawdd ariannol ar gael i ganolfannau fel eglwysi, mosgiau a themlau, sydd fwyaf tebygol o gael eu targedu, i osod camerâu CCTV, larymau a chloeon gwell.
Fe fydd ceisiadau llwyddiannus gan ganolfannau crefyddol yng Nghymru a Lloegr yn gallu derbyn hyd at £56,000 yr un tuag at wella diogelwch.
Ond er mwyn derbyn y nawdd fe fydd yn rhaid iddyn nhw gyflwyno tystiolaeth eu bod nhw wedi cael eu targedu gan droseddau atgasedd yn ystod y ddwy flynedd ddiwetha’.
Mae’r cynllun ariannol newydd hwn yn ychwanegiad at gynllun sydd eisoes mewn bodolaeth ar gyfer y canolfannau hynny sydd wedi’u targedu gan graffiti atgas ei natur.
Ers i’r cynllun hwn, sydd gwerth £2.4m, gael ei gyflwyno yn 2016, mae 89 o ganolfannau crefyddol wedi elwa ohono.
Amddiffyn crefyddau
“Rydym yn wlad aml-grefyddol, ac fel y dywedais yn sgil yr ymosodiad brawychol erchyll ym Mharc Finsbury y llynedd, mae ymosodiad ar ein cymuned yn ymosodiad arnom ni i gyd,” meddai Prif Weinidog Prydain, Theresa May.
“Mae rhyddid i addoli, parch a goddefgarwch i wahanol grefyddau yn rhan greiddiol o’n gwerthoedd, a dw i’n benderfynol o gael gwared ag eithafiaeth a throseddau atgasedd lle bynnag y mae’n digwydd.”