Mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Chris Grayling, yn wynebu protest gan weithwyr rheilffyrdd dros yr “anhrefn llwyr” a’r ffraeo ynglyn ag amodau gwaith.

Yn ôl Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT), fe fydd aelodau’n ceisio cwrdd â’r gweinidog mewn uwchgynhadledd ym Manceinion yn ddiweddarach y mis hwn.

Mae gwasanaethau Northern wedi dioddef oedi a chanslo ers i amserlenni newydd gael eu cyflwyno ym mis Mai; tra bod yr RMT wedi yn ceisio setlo hen ffrae ynglyn â chyfrifoldebau y giard ar drenau.

“Mae’r cwmni hwn wedi lleihau’r amserlen at anhrefn llwyr, ac ni fydd yr undeb yn caniatáu iddyn nhw dorri’r diwylliant diogelwch yn yr un modd,” meddai ysgrifennydd cyffredinol RMT, Mick Cash.

Mae’r undeb wedi cyhoeddi tair streic ar gyfer y mis hwn.