Bu farw’r perchennog clybiau nos, Peter Stringfellow, yn 77 oed. Roedd wedi bod yn ymladd canser yr ysgyfaint, ond wedi dewis cadw ei salwch yn gyfrinach.

Bu farw yn ystod oriau mân fore heddiw (dydd Iau, Mehefin 7), yn dilyn cyfnod yn yr ysbyty.

Fe fydd ei glwb, Stringfellows yn ardal Covent Garden, Llundain, yn dal i fod ar agor fel arfer, meddai llefarydd ar ran y gwr busnes.

Fe sefydlodd Peter Stringfellow ei glwb cyntaf yn gynnar yn y 1960au, gan fwcio sêr fel The Beatles, The Kinks a Jimi Hendrix i chwarae yno. Yn 1980 yr agorodd Stringfellows, cyn mynd yn ei flaen i agor llefydd yn Paris, Efrog Newydd, Miami a Beverly Hills.

Gyda merched bronnoeth yn gweini ac adloniant hwyr, fe ddaeth brand Stringfellows yn gysylltiedig â rhyw, ac roedd yn adlais o’r hyn yr oedd Hugh Hefner wedi’i greu gyda Playboy.

Ganwyd Peter Stringfellow yn ninas Sheffield in 1940, yr hynaf o bedwar brawd a gafodd eu magu gan fenywod y teulu wedi i’r dynion fynd i ymladd yn yr Ail Ryfel Byd.