Mae’r cwmni ffonau, BT, yn dweud bod y cynllun i roi hen giosgs coch yng ngofal cymunedau lleol wedi bod yn “llwyddiant anferthol”.

Fe gafodd y cynllun, ‘Mabwysiadu ciosg’, ei sefydlu yn 2008 fel modd i gymunedau gadw’r cisogs coch traddodiadol a oedd yn arfer cael eu defnyddio’n helaeth cyn dyfodiad ffonau symudol.

Mae’r ciosgs ar gael i bobol leol am y swm o £1, a dim ond yn ddiweddar fe gafodd y pum milfed ciosg ei werthu yn sir Dyfnaint.

Yn ôl BT, mae’r ciosgs wedi cael eu trawsnewid i nifer o wahanol bethau, gan gynnwys llyfrgell, canolfan wybodaeth, clwb nos a man i gadw diffibriliwr.

Adfer y ciosg coch

“Gyda’r defnydd o ffonau talu wedi dirywio mwy na 90% yn ystod y degawd diwethaf, does dim angen cymaint o giosgau sy’n cynnwys ffonau talu,” meddai llefarydd ar ran BT.

“Ond mae pentrefi a threfi ledled gwledydd Prydain wedi bod yn awyddus i’w cadw, oherwydd bod y ciosgs coch yn rhan greiddiol o’r gymuned leol.”

Yn ôl ystadegau BT, mae tua 5,500 o giosgs coch sy’n dal i gael eu defnyddio i gadw ffonau talu.