Ni fydd ymchwiliad i honiadau bod Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, Jon Bercow, wedi rhegi a galw enwau yn ystod dadl yn y siambr fis diwetha’.

Yn dilyn dadl danllyd yn Nhŷ’r Cyffredin ar Fai 16, fe gafodd cwyn ei chyflwyno i’r Comisiynydd Safonau Seneddol fod y Llefarydd wedi rhegi a galw Arweinydd y Tŷ, Andrea Leadsom, yn “ddynes wirion”.

Ond mae’r Comisiynydd wedi ymateb trwy ddweud na fydd ymchwiliad yn cael ei gynnal, a hynny am fod rheolau’r Tŷ’r Cyffredin yn nodi mai “mater i’r Llefarydd” yw’r hyn sy’n digwydd o fewn y siambr.

Y cefndir

Yn dilyn y ffrae a gododd o’r ddadl ar Fai 16, ymateb Jon Bercow oedd ei fod wedi defnyddio’r gair “gwirion”, a hynny wrth fynegi ei rwystredigaeth at y Llywodraeth a dorrodd yn fyr ddadl ar dân Tŵr Grenfell.

Ond gwrthododd ymddiheuro am y sylw, gan ychwanegu y byddai’n “parhau i godi llais” am faterion sydd o ddiddordeb i’r siambr.

Fe ddaeth yr honiadau yn ei erbyn ddiwrnod ar ôl i ASau benderfynu peidio â chynnal ymchwiliad i honiadau bod y Llefarydd wedi bwlio dau o’i gyn-ysgrifenyddion preifat, Angus Sinclair a Kate Emms.

Ond mae Heddlu Metropolitan Llundain wedi cadarnhau eu bod nhw ar hyn o bryd yn “asesu” honiad yn erbyn y Llefarydd o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.