Fe fydd yr ymchwiliad cyhoeddus i drychineb Tŵr Grenfell yn dechrau clywed tystiolaeth heddiw.

Mae disgwyl i fanylion ynglŷn â sut yr oedd y tân wedi ymledu mor gyflym yn cael eu datgelu wrth i ran gyntaf yr ymchwiliad ddechrau.

Fe fydd adroddiadau gan arbenigwyr i achos y tân yn cael eu cyhoeddi wrth i’r ymchwiliad glywed datganiad agoriadol gan eu cyfreithiwr Richard Millett QC.

Pum adroddiad fydd yn cael eu cyhoeddi yn ystod y bore a fydd yn edrych ar effeithlonrwydd y mesurau tân o fewn yr adeilad.

Cafodd 71 o bobl eu lladd yn y drasiedi yn Kensington, gorllewin Llundain ar 14 Mehefin y llynedd.

Bu farw un person arall ym mis Ionawr ar ôl bod yn yr ysbyty ers y tân.

Mewn datganiad cyn y gwrandawiad dywedodd Grenfell United, y corff sy’n cynrychioli dioddefwyr a’u teuluoedd: “Dyma ddechrau ffordd hir at gyfiawnder i ni, ein teuluoedd, ein cymuned a’r 72 o bobl a gollodd eu bywydau ar 14 Mehefin 2017.

“… Beth sy’n ei wneud yn anoddach i ni yw gwybod y gallai’r marwolaethau yma fod wedi cael eu hosgoi.”

Fe fu saith diwrnod o deyrngedau i’r rhai fu farw cyn i’r ymchwiliad ddechrau o dan gadeiryddiaeth Syr Martin Moore-Bick.