Miloedd wedi gorymdeithio tros annibyniaeth i’r Alban
Baner yr Alban
Llun: Wicipedia
Mae oddeutu 10,000 o bobol sydd o blaid annibyniaeth i’r Alban wedi bod yn gorymdeithio heddiw.
Cafodd y digwyddiadau eu trefnu o dan faner ‘All Under One Banner’, mudiad sy’n trefnu gorymdeithiau i gefnogi’r ymgyrch tros annibyniaeth.
Yn Dumfries y cafwyd yr orymdaith fwyaf heddiw, ac fe fydd un debyg yn cael ei chynnal yn Glasgow am 11 o’r gloch fore Sul. Fis diwethaf, roedd 35,000 o bobol wedi ymgynnull ar gyfer gorymdaith.
Mae disgwyl i gyfres o ddigwyddiadau tebyg gael eu cynnal dros yr wythnosau i ddod, wrth i’r ymgyrch fagu coesau unwaith eto.
Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon wedi dweud yn ddiweddar ei bod hi am danio’r ddadl tros annibyniaeth unwaith eto.
Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.
Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.
Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.