Mae dyn 33 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio ar ôl i ddyn gael ei drywanu i farwolaeth yn Salford.

Cafodd yr heddlu eu galw toc ar ôl 4.10 fore heddiw a chafodd dyn yn ei 20au ei gludo i’r ysbyty lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae’r dyn a gafodd ei arestio’n cael ei holi yn y ddalfa, yn ôl Heddlu Manceinion, sydd wedi apelio am wybodaeth.