Mae cyflwr ffyrdd gwledydd Prydain yn rhwystro rhagor o bobol rhag neidio ar gefn beic, yn ôl astudiaeth newydd.

Byddai 56% o bobol yn seiclo’n amlach petai heolydd yn llai tyllog, yn ôl ymchwil Cycling UK.

Rhwng 207 a 2016, bu farw 22 o seiclwyr, a chafodd 368 eu hanafu, yn rhannol oherwydd problemau ag arwynebau ffyrdd.

Ac mae un o bob pum ffordd yng Nghymru a Lloegr mewn cyflwr gwael, yn ôl adroddiad diweddar gan yr Asphalt Industry Alliance.

Siwrneiau beunyddiol

“Lleiafrif o bobol y Deyrnas Unedig sy’n seiclo, gyda dim ond 2% o siwrneiau yn cael eu cwblhau ar gefn beic,” meddai Duncan Dollimore, Pennaeth Ymgyrchoedd Cycling UK.

“Mae’r bobol sydd yn seiclo, yn gorfod delio â thyllau a thraffig peryglus bob dydd. Er gwaetha’ hynny, maen nhw’n parhau i wneud…

“Fodd bynnag, dyw’r amodau ddim bob tro’n bleserus, a does dim syndod bod y rhan fwyaf yn penderfynu’n erbyn seiclo ar gyfer eu siwrneiau byr, dyddiol.”