Mae’r rheithgor wedi tyngu llw ar gyfer achos dyn sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio ei ferch naw wythnos oed.

Mae James Ring yn gwadu lladd Aria Ring ym mis Ionawr y llynedd.

Fe ymddangosodd y dyn 21 oed gerbron Llys y Goron Maidstone ddoe (dydd Llun, Mai 28), gan gafodd y panel o saith dyn a phum dynes ei ddewis.

Mae’r achos wedi’i ohirio tan ddydd Llun, Mehefin 4, pryd y bydd yr erlyniad yn cyflwyno eu hachos.

Mae disgwyl i’r achos bara hyd at chwe wythnos.

Y cefndir

Fe gafodd y babi ei rhuthro i’r ysbyty yn Llundain ar ôl cael ei chanfod yn ddifrifol wael mewn ty yn ardal Crabble yn Dover, ar Ionawr 7, 2017. Bu farw ddeuddydd yn ddiweddarach.

Fe gafodd James Ring, o Chatham, ei arestio ar y pryd, ond ei ryddhau ar fechnïaeth yn ddiweddarach. Roedd hi’n fis Tachwed y llynedd arno’n cael ei gyhuddo.