Mae dyn yng Ngogledd Iwerddon wedi marw o ganlyniad i gymryd cyffuriau, yn ôl yr heddlu.

Bu farw’r dyn 34 oed o Moneymore, yn hwyr nos Sul (Mai 27).

Mae Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon wedi cadarnhau nad yw’r prawf post mortem wedi’i wneud eto, ond mai’r gred ydi fod cysylltiad cryf rhwng y farwolaeth a chamddefnydd cyffuriau.

Mae dyn arall, 26 oed, yn dal i fod yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol.