Fe fydd yn rhaid i Theresa May a’i llywodraeth gydnabod yn fuan y bydd yn rhaid i’r Deyrnas Unedig aros oddi fewn i’r undeb tollau.

Dyna farn Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, wrth iddi ddweud mai “dyna’r unig opsiwn credadwy a chynaladwy” wedi Brexit. A bai Theresa May, meddai, ydi “gwrando’n unig ar y Brexitwyr gwallgo”.

Fe ddaw ei sylwadau yn dilyn cyfarfod gyda phrif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier, yn ninas Brwsel.

“Roeddwn i’n glir iawn efo Michel Barnier fy mod i am weld – nid yn unig yr Alban – ond y Deyrnas Unedig yn aros oddi fewn i’r farchnad sengl, a dyna ydi safbwynt yr Alban wedi bod ar hyd yr adeg.

“Mae aros oddi mewn i’r undeb tollau yn rhywbeth sydd o fudd i’r Alban, ond nid i’r Alban yn unig…”

“Fy marn gref i ydi ei bod hi o fudd i’r Deyrnas Unedig yn gyfan i aros oddi fewn i’r undeb tollau, ac mae’n bryd i lywodraeth Theresa May sylweddoli hynny.”