Mae pensiynwr wedi marw wedi i’w gerbyd gael ei foddi mewn llifogydd yng nghanolbarth Lloegr.

Fe gafodd y dyn yn ei 80au ei gludo i’r ysbyty wedi’r digwyddiad yn Rushall yn ystod oriau mân heddiw (dydd Llun, Mai 28), ond bu farw yno yn ddiweddarach.

Fe gafodd canolbarth Lloegr ei daro gan dywydd hynod o ddrwg ddydd Sul, gyda gwerth mwy na mis o law yn disgyn mewn rhannau o ddinas Birmingham mewn un awr. Mewn rhai mannau, roedd dyfnder y dwr yn bum troedfedd.

Bu’n rhaid i bobol gael eu hachub o’u cartrefi hefyd.