Mae dyn 22 oed wedi’i gyhuddo o lofruddio dyn 30 oed ar stryd brysur yng ngogledd Llundain.
Mae Reece Williams wedi’i gyhuddo o drywanu Marcel Campbell i farwolaeth yn Islington am 6.30pm nos Lun.
Bydd e’n mynd gerbron ynadon Haringey ddydd Llun wrth i ymchwiliad Heddlu Scotland Yard barhau.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu fod yr ymosodiad yn un “ciaidd”.