Mae gŵyl Mutiny yn Portsmouth wedi cael ei chanslo ar ôl i ddynes 18 oed a dyn 20 oed farw ar ôl cael eu taro’n wael yn y digwyddiad nos Sadwrn.

Dydy eu marwolaethau ddim yn cael eu trin fel rhai amheus, ond mae Heddlu Swydd Hampshire yn cynnal ymchwiliad.

Roedd disgwyl i Craig David a Sean Paul berfformio yno heddiw, ond mae pryderon fod cyffuriau peryglus wedi bod ar y safle.

Dywedodd y trefnwyr eu bod nhw wedi canslo’r ail ddiwrnod heddiw fel “rhagofal”.

Cafwyd hyd i’r ddau mewn cyflwr difrifol cyn eu cludo i’r ysbyty, lle buon nhw farw’n ddiweddarach.

Dywedodd y trefnwyr eu bod nhw’n “drist” o orfod canslo gweddill y digwyddiad, ond mai’r flaenoriaeth yw diogelwch eu cwsmeriaid.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.