Mae adroddiad Comisiwn Twf yn “chwa o awyr iach” ar ôl “celwyddau Brexit”, yn ôl Prif Weinidog yr Alban ac arweinydd yr SNP, Nicola Sturgeon.

Cafodd y ddogfen ei llunio mewn ymgais i aildanio’r ddadl am annibyniaeth, ac mae’n gwneud 30 o argymhellion economaidd.

Y gobaith yw cyflwyno rhai ohonyn nhw cyn ceisio am annibyniaeth.

Dywed Nicola Sturgeon mai’r her i bawb yw ystyried sut i wella economi’r wlad.

Mae’r gwrthbleidiau wedi beirniadu’r adroddiad, ac arweinydd y Ceidwadwyr, Ruth Davidson yn dweud ei fod yn “gambl”.

Argymhellion

Ymhlith yr argymhellion yn yr adroddiad mae torri diffyg ariannol y wlad o fan cychwyn o 5.9% wrth adael y Deyrnas Unedig i lai na 3%.

Byddai’r Alban annibynnol yn gwneud cyfraniad ariannol i dalu am ei rhan yn nyled y Deyrnas Unedig.

Gallai’r Alban hefyd gadw’r bunt am gyfnod ar ôl mynd yn annibynnol, meddai’r adroddiad, ond y bwriad yw cyflwyno arian newydd ar ôl bodloni chwe phrawf economaidd.

Ym mhapur newydd The Scotsman, dywed Nicola Sturgeon fod yr adroddiad yn “chwa o awyr iach o’i gymharu â chelwyddau’r Brecsitwyr”.

Dywed fod yr adroddiad yn cynnwys “argymhellion beiddgar a allai helpu i lywio manteision ein hadnoddau naturiol”.

Ychwanega fod cynnig taliadau i’r Deyrnas Unedig yn “gam ymlaen” o refferendwm annibyniaeth 2014 ac yn ffordd o gynnal perthynas yr Alban gyda’r gwledydd eraill ar ôl sicrhau annibyniaeth.

Mae’n gale ar i’r pleidiau eraill amlinellu eu gweledigaeth nhw ar gyfer y dyfodol.