Dim ond 0.1% o dwf a fu yn economi gwledydd Prydain yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn – y twf arafaf mewn pum mlynedd.

Twf araf mewn sawl diwydiant oedd yn gyfrifol am hyn, yn ôl y Swyddfa Ystadegau, yn hytrach na’r tywydd garw ar ddechrau’r flwyddyn.

Ac yn ôl y prif ymgynghorydd economaidd Howard Archer, mae’r diffyg twf yn dangos bod “yr economi wedi colli momentwm ar lefel cudd”.

Yn ogystal, mae’n ymddangos bod effeithiau Brexit ar waith, gan wneud gwledydd Prydain yn llai deniadol ar gyfer buddsoddiad gan gwmnïau.

“Mae trafodaethau am berthynas hir dymor y Deyrnas Unedig gyda’r Undeb Ewropeaidd, yn debygol o barhau i fod yn heriol, a bydd hynny’n cyfyngu ar yr apêl i gwmnïau,” meddai Howard Archer.