Mae dyn 18 oed a gafodd ei arestio yng ngogledd Llundain wythnos ddiwethaf wedi cael ei gyhuddo o gyfres o droseddau brawychol.

Cafodd Sudesh Mamoor Faraz Amman, o Harrow, ei gyhuddo o saith trosedd o recordio gwybodaeth a oedd yn debygol o fod yn ddefnyddiol i berson yn cyflawni neu’n paratoi i gyflawni gweithred frawychol.

Cafodd hefyd ei gyhuddo o dri throsedd o ledaenu cyhoeddiadau brawychol.

Roedd wedi cael ei arestio gan swyddogion uned frawychiaeth yr Heddlu Metropolitan ddydd Gwener ddiwethaf.

Fe fydd yn mynd gerbron llys Ynadon Westminster heddiw (dydd Gwener, 25 Mai).

Mae dynes 19 oed a gafodd ei harestio yn ne Llundain, a dyn 18 oed gafodd ei arestio yn Swydd Hertford ddydd Mercher, wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.