Mae rheithgor wedi barnu dyn yn euog o geisio lladd ei wraig trwy wneud difrod i’w pharasiwt.

Gerbron Llys y Goron Exeter heddiw, fe gafodd Emile Cilliers, 38, ei farnu’n euog o ddau gyhuddiad o geisio llofruddio.

Yn ogystal, fe gafodd ei farnu’n euog o ddifrodi falf nwy gyda’r bwriad o niweidio – roedd wedi ceisio lladd ei wraig trwy ryddhau nwy yn eu tŷ.

Cafodd y wraig, Victoria Cilliers, ei hanafu’n ddifrifol pan fethodd ei pharasiwt ar ôl neidio o awyren yn Wiltshire ar Ebrill 5, 2015.

Dedfryd

Hyd yma, does dim dyddiad wedi ei bennu ar gyfer dedfrydu Emile Cilliers.

Ond, wrth siarad yn yr achos llys dywedodd yr Ustus Sweeney, y byddai’n ystyried pa mor “beryglus” yw’r dyn.