Mae trais sy’n gysylltiedig â chyffuriau, bellach yn broblem i gymunedau gwledig yn ogystal â dinasoedd, yn ôl Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid yn San Steffan.

Wrth siarad gerbron Tŷ’r Cyffredin ddydd Mawrth (Mai 22) ,cyfeiriodd Dianne Abbott at bwl diweddar o drais yn Llundain, gan alw ‘r sefyllfa yno yn “waedlyd”.

Ac ategodd bod y trais dinesig yma, bellach wedi lledu i gefn gwlad trwy ffenomen ‘Llinellau Sirol’ (County Lines).

“Nid mater i ddinasoedd mawr yn unig, yw hyn,” meddai Dianne Abbott gerbron Tŷ’r Cyffredin. “Mae ffenomen Llinellau Sirol wedi dod â throseddau gangiau i galon cefn gwlad.”

Llinellau Sirol

Term yw hyn am dechneg gangiau dinesig i weithredu tu allan i’w cadarnleoedd – hynny yw, i weithredu yng nghefn gwlad.

Mae’r gangiau yn anfon aelodau i ardaloedd gwledig, yn rhoddi ffonau symudol iddyn nhw er mwyn cadw mewn cysylltiad, a’n bwrw ati i werthu cyffuriau trwy’r rhwydwaith yma.