Mae dyn o Loegr wedi cael ei garcharu am ddwy flynedd ar ôl cyfaddef rhannu a bod â deunydd sy’n gysylltiedig â brawychiaeth yn ei feddiant.

Fe blediodd Farooq Rashid o Bradford yn euog i un achos o fod ym meddiant dogfen a allai fod o gymorth i derfysgwr, ac un achos o rannu dogfen.

Fe gafodd y dyn 43 oed ei garcharu am 24 mis yn Llys y Goron Leeds heddiw (dydd Mawrth, Mai 22).

“Mae grwpiau brawychol fel Daesh yn dibynnu’n drwm ar bropoganda yn cael ei rannu ar-lein i annog cefnogaeth, radicaleiddio a phrofocio unigolion i gyflawni ymosodiadau tramor ac yn y Deyrnas Unedig,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

“Drwy rannu a bod ym meddiant dogfennau o’r fath, mae Rashid bellach wedi derbyn cyfnod yn y carchar.”