Mae’n rhaid i Brydain fod yn llai Llundeinig er lles dyfodol Prydain, yn ôl arweinydd Ceidwadwyr yr Alban, Ruth Davidson.

Galwodd ar i rai o’r sefydliadau Prydeinig, gan gynnwys Amgueddfa Prydain, ystyried agor yn rhannau eraill o wledydd Prydain, gan ychwanegu y dylai swyddi’r Llywodraeth gael eu symud i wahanol rannau o wledydd Prydain hefyd.

Bydd hi’n traddodi araith yn y Gyfnewidfa Bolisi ddydd Llun, a hynny ar ôl i Brif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon addo “ailddechrau’r ddadl” o blaid annibyniaeth i’r Alban.

Ac mae Ruth Davidson yn rhybuddio fod dyfodol y Deyrnas Unedig yn y fantol, gan ddweud y byddai’n “ffôl” credu y byddai perthynas gwledydd Prydain â’i gilydd yn aros yr un fath yn sgil Brecsit.

‘Rhy Llundenig’

Dywedodd fod rhaid i Lywodraeth Prydain fagu perthnasau cryf gyda gwledydd eraill Prydain.

“Mae angen hefyd i ni ledaenu manteision yr undeb mewn modd teg a hafal o amgylch y genedl. Mae’r DU yn dal yn rhy Llundeinig.”

Ychwanegodd fod Llundain yn “amsugno talent, arian a statws” ar draul llefydd eraill, ond mae hi’n mynnu nad yw hi’n “wrth-Lundeinig”.