Mae Heddlu Scotland Yard yn ymchwilio i lofruddiaeth dyn, ar ôl iddo gael ei drywanu i farwolaeth.

Mae lle i gredu mai dyn yn ei 20au a gafodd ei ladd, ac fe gafwyd hyd iddo yn ardal Mitcham yn ne Llundain.

Cafodd yr heddlu eu galw am 3.29am, ond bu farw’r dyn yn y fan a’r lle.

Cafodd dyn 44 oed ei arestio’n fuan wedyn ar amheuaeth o lofruddio, ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.

Dydy’r dyn fu farw ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol hyd yn hyn, ac mae archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal.