Mae dyn 65 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dynes 85 oed yn ei chartref yn Romford yn Swydd Essex.

Cafwyd hyd i gorff Rosina Coleman am oddeutu 11.30 fore Mawrth.

Cafodd Paul Prause ei arestio ddydd Gwener ar amheuaeth o lofruddio’r ddynes, ac mae wedi’i gadw yn y ddalfa ar ôl cael ei gyhuddo. Bydd yn mynd gerbron ynadon Redbridge ddydd Llun.

Cafodd Rosina Coleman ei disgrifio gan ffrindiau fel “dynes hapus”, oedd wedi byw yn yr un lle ers blynyddoedd.