Mae cyfuniad o ansicrwydd swyddi, argyfwnwg tai, dyledion cynyddol a safonau byw sy’n gostwng yn achosi cynnydd dychrynllyd mewn problemau iechyd meddwl.

Dyna yw rhybudd arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, sy’n dadlau bod cysylltiad clir rhwng grymoedd marchnad ‘ddilyffethair’ a salwch meddwl.

“Mae’r nifer o bobl sy’n diodddef o broblemau iechyd meddwl yn dod yn epidemig,” meddai.

“Mae salwch meddwl yn costio amcangyfrif o £99 biliwn i’r economi bob blwyddyn. Ond yn bwysicach fyth na hyn yw bod mor amlwg bod yr economi fel y mae yn ddrwg i’n hiechyd meddwl.

“Mae’r patrwm mewn cymdeithas yn glir: y mwyaf diamddiffyn yw pobl rhag grymoedd marchnad ddilyffethair, y mwyaf agored ydyn nhw i straen a phroblemau iechyd meddwl.

“Dyna pam mae’n rhaid inni gymryd y grym oddi wrth y farchand a rhoi’r grym hwnnw’n uniongyrchol i bobl eu hunain.”