Byddai llywodraeth Lafur yn sicrhau gwell rheolaeth ar gyfrifwyr ac ar y diwydiant ariannol, yn ôl Canghellor yr Wrthblaid, John McDonnell.

Dywed y byddai Llafur yn torri ar rym y chwe chwmni mwyaf o gyfrifwyr ym Mhrydain.

“O dan y Llywodraeth Lafur nesaf, ni fydd y chwe chwmni mawr yn cael parhau i ymddwyn fel cartel sy’n rhwystro cwmnïau newydd neu yrru safonau i lawr,” meddai.

“Fel arall bydd yn heintio gweddill ein heconomi a’r gymuned fusnes.”

Mae ei sylwadau’n dilyn adroddiad seneddol damniol sy’n galw ar y pedwar cwmni mwyaf o gyfrifwyr – KPMG, PwC, Deloitte ac EY – gael eu chwalu, ar ôl i fethiannau ddod i’r amlwg yn sgil cwymp y cwmni adeiladu enfawr, Carillon.

Marchnad fwy cystadleuol

Yn ôl yr adroddiad, roedd y graddau roedd yr archwilwyr hyn yn gysylltiedig â rheolaeth ariannol y cwmni yn dangos yr angen am farchnad fwy cystadleuol.

“Mae’r adroddiad seneddol ar gwymp Carillion wedi amlygu methiant trychinebus ein system reoleiddio,” meddai John McDonnell.

“Unwaith eto mae cyfrifwyr ac archwilwyr fel petaen nhw’n gweithredu gyda dirmyg wrth leinio eu pocedi.

“Mae’r diffyg tryloywder ac atebolrwydd yn golygu nad yw’n ymddangos bod neb yn cael eu cosbi am eu camweddau.”