Mae torfeydd wedi cychwyn ymgasglu o gwmpas Castell Windsor ar gyrion Llundain, lle mae priodas frenhinol yn cael ei chynnal heddiw.

Fe fydd un o wyrion y Frenhines Elizabeth II, y Tywysog Harry, yn priodi Meghan Markle, actores o America, yno.

Y Tywysog Harry yw’r chweched yn yr olyniaeth i goron Lloegr.