Mae cyn-ysbïwr o Rwsia gafodd ei wenwyno – ynghyd â’i ferch yn Salisbury – wedi gadael yr ysbyty.

Mae tarddiad y gwenwyn wedi bod yn destun dadlau ffyrnig rhwng Llywodraeth Prydain a Llywodraeth Rwsia.

Cafodd Sergei Skripal a Yulia Skripal eu cludo i’r ysbyty yn Salisbury ar Fawrth 4 ar ôl cael eu canfod yn anymwybodol ar fainc yn y dref.

Yn ogystal, cafodd y Ditectif Rhingyll, Nick Bailey, ei gludo i’r un ysbyty, ar ôl cael ei wenwyno gan yr un gwenwyn – y cemegyn novichok.

Mae’r ysbyty bellach wedi cadarnhau bod y tri wedi’u rhyddhau.

“Cam pwysig”

“Rydym wedi medru rhyddhau Sergei Skripal,” meddai cyfarwyddwr nyrsio Ysbyty Cylch Salisbury, Lorna Wilkinson.

“Dyma gam pwysig iddo, wrth iddo anelu at wella. Bydd gweddill y broses yma, yn digwydd tu allan i’r ysbyty.”