Mi fydd tafarn yn Lloegr yn gwahardd unrhyw sôn am y briodas frenhinol ddydd Sadwrn yma (Mai 19), trwy roi dirwy i unrhyw un sy’n mentro gwneud hynny.

Mae gwesty’r Alexandra yn Swydd Derby wedi ailgyflwyno’r syniad ar ôl codi cyfanswm o £400 yn ystod priodas y Tywysog William a Kate Middleton yn 2011.

Ar gyfer priodas y Tywysog Harry a Meghan Markle dros y penwythnos, mi fydd y ‘bocs rhegi’ yn cael ei ailosod yn y dafarn er mwyn derbyn arian gan y rheiny sy’n meiddio crybwyll y digwyddiad.

“wedi laru” ar y briodas

Yn ôl perchennog y dafarn, Anna Dyson-Edge, mae nifer o’i chwsmeriaid ffyddlonaf “wedi laru” ar glywed am y pâr brenhinol o hyd, felly mae hi wedi gosod posteri o gwmpas y dafarn yn cynnwys lluniau o’r ddau â chroes coch ar eu traws.

Mae’n ychwanegu wedyn y bydd unrhyw arian a fydd yn cael ei gasglu yn y ‘bocs rhegi’ yn cael ei roi i’r uned cancr lleol.