Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi y bydd yr uchafswm y gall rhywun fetio ar beiriannau FOTB, yn cael ei ostwng o £100 i £2.

Daw’r cam hwn yn sgil ymgynghoriad hir ynglŷn â’r peiriannau, ac mae disgwyl y bydd yn ergyd i fusnesau betio.

Roedden nhw wedi dadlau y byddai’r newid yn arwain at golli swyddi, gyda phrif weithredwr y cwmni, William Hill, yn dweud y bydd tua hanner y siopau betio ym Mhrydain yn wynebu cau o ganlyniad i’r gostyngiad.

“Amddiffyn chwaraewyr”

Yn ôl Llywodraeth Prydain, maen nhw wedi cymryd y cam hwn er mwyn mynd i’r afael â phroblemau gamblo ymhlith pobol.

“Mae problemau gamblo yn gallu dinistrio bywydau unigolion, teuluoedd a chymunedau,” meddai Tracy Crouch, yr Ysgrifennydd Chwaraeon.

“Mae’n iawn ein bod yn cymryd camau nawr er mwyn sicrhau diwydiant gamblo cyfrifol sy’n amddiffyn y mwyaf bregus yn ein cymdeithas.

“Trwy osod yr uchafswm ar gyfer y FOBT i £2, fe all fod o gymorth i roi stop ar golledion enbyd i’r rheiny sy’n methu fforddio hynny.

“Er ein bod ni eisiau diwydiant gamblo iachus sy’n cyfrannu at yr economi, rydyn ni hefyd eisiau un sy’n gallu amddiffyn chwaraewyr.”