Fe fydd Guernsey yn cynnal dadl ar Fesur Cymorth i Farw, sy’n golygu rhoi’r hawl i bobol sydd â salwch terfynol gael cymorth meddyg i farw.

Cafodd y cynnig ei gyflwyno gan un o weinidogion yr ynys, Gavin St Pier.

Pe bai’n cael ei dderbyn, fe fydd yr ynys yn dechrau ar gyfnod ymgynghori fydd yn para 18 mis.

Guernsey fyddai’r unig ardal o ynysoedd Prydain i dderbyn yr hawl i roi cymorth i farw. Mae’r weithred wedi’i gwahardd yng ngwledydd Prydain, ond mae gan Guernsey yr hawl i ddeddfu drosti ei hun.

Mae ymgyrchwyr wedi croesawu’r ddadl ar yr ynys.

‘Anochel’

Ym mis Ebrill, dywedodd Gavin St Pier fod rhoi’r hawl i bobol sy’n dioddef o salwch terfynol ddewis marw yn “anochel”.

Wrth groesawu ei gynnig, dywedodd Prif Weithredwr Dignity in Dying, Sarah Wootton: “Dylem gymeradwyo pobol Guernsey am ddechrau’r drafodaeth hon a rhaid i ni obeithio y bydd eu hesiampl bositif a blaengar yn cael ei dilyn yma.”