Mae chwaraewr arall o glwb rygbi Durham yng ngogledd Lloegr wedi marw ar daith yn Sri Lanka.

Cafodd Tom Baty, 27 oed ei gadarnhau’n farw heddiw, ddeudydd ar ôl iddo ef a’i gyfaill Thomas Howard, 26 oed, gael eu cymryd i ysbyty yn dioddef anawsterau wrth anadlu.

Roedd Thomas Howard wedi marw’n fuan ar ôl mynd i’r ysbyty ddydd Sul.

Roedd y ddau ymhlith 22 o aelodau o’r clwb yn Sri Lanka ers dydd Iau ac wedi chwarae gêm gyfeillgar yn erbyn clwb lleol ddydd Sadwrn.

Mae achos eu marwolaethau’n dal i fod yn ddirgelwch.