Mae nifer y llofruddiaethau yn ninas Llundain wedi codi 44% mewn blwyddyn, yn ôl ffigyrau newydd.

Mae’r ffigyrau gan Bwyllgor Heddlu a Throseddu Cynulliad Llundain yn dangos bod 157 o lofruddiaethau wedi bod yn y ddinas yn ystod y cyfnod 2017-18, o gymharu â 109 yn y cyfnod blaenorol.

Fe wnaeth nifer y bobol ifanc a gafodd eu llofruddio wedyn gynyddu 30% – o 26 yn 2016/17 i 34 yn 2017/18.

Roedd yr un adroddiad yn dangos ffigyrau ar gyfer lladrata, gyda lladradau personol wedi cynyddu o 22,479 i 30,609 (36%), a lladradau mewn tai wedi cynyddu o 43,424 i 58,050 (33).

‘Cynnydd arswydus

 “Mae’r cynnydd annerbyniol hwn mewn troseddau ysgeler megis llofruddiaeth a lladrata stryd a thai yn peri anesmwythyd,” meddai cadeirydd y pwyllgor, Steve O’Connel.

“Mae angen i Faer Llundain a’r Met gymryd camau brys i fynd i’r afael a’r troseddau ei hun, sydd wedi gweld cynnydd o draean ers y cyfnod hwn y llynedd.

“Mi fydd ein pwyllgor ni yn gofyn pa gamau sy’n cael eu cymryd i gadw pobol Llundain yn ddiogel, ac i wyrdroi’r cynnydd arswydus hwn mewn troseddau.”

Ffigyrau gwledydd Prydain

O gymharu ffigyrau Llundain â’r rhai diweddara’ a gafodd eu cyhoeddi gan Swyddfa’r Ystadegau Cenedlaethol ar gyfer Cymru a Lloegr, mae nifer y llofruddiaethau wedi codi 9% yn ystod 2017 – gan hepgor achosion a oedd yn gysylltiedig â Hillsborough ac ymosodiadau brawychol.

O ran y nifer o ymosodiadau treisgar, fe gafodd 1.3m o droseddau eu cofnodi, sy’n gynnydd o 20% ers 2016.