Am y tro cyntaf ers wyth mlynedd, mae’r nifer o weithwyr tramor o wledydd yr Undeb Ewropeaidd wedi cwympo ym Mhrydain.

Yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), roedd 2.29 miliwn o weithwyr tramor o’r Undeb Ewropeaidd ym Mhrydain rhwng Ionawr a Mawrth eleni – sy’n 28,000 yn llai nag oedd yn yr un cyfnod y llynedd.

Mae’r cwymp mwyaf ymhlith gweithwyr o’r wyth gwlad o ddwyrain Ewrop a ymunodd â’r Undeb Ewropeaidd yn 2004.

Roedd 91,000 yn llai o weithwyr o’r Weriniaeth Tsiec, Estonia, Hwngari, Latfia, Lithiwnia, Gwlad Pwyl, Slofacia a Slofenia yn ystod tri mis cyntaf eleni o gymharu â’r un adeg y llynedd.

Meddai Jonathan Portes, athro Economeg King’s College, Llundain:

“Mae cyfuniad o ffactorau – economi sy’n arafu yma o gymharu ag adferiad ar y cyfandir, ond hefyd effaith gwleidyddol a seicolegol pleidlais Brexit – wedi gwneud y Deyrnas Unedig yn lle tipyn llai deniadol i fyw a gweithio.”