Bydd bygythiad y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn parhau am flynyddoedd i ddod – a hynny er gwaetha’r ffaith eu bod wedi colli tir yn y Dwyrain Canol.

Dyna rybuddiodd pennaeth gwasanaeth cudd wybodaeth MI5, Andrew Parker, mewn araith yn Berlin ddydd Llun (Mai 14).

“Er bod y Wladwriaeth Islamaidd bellach wedi colli’u cadarnleoedd yn Syria ac Irac, bydd angen ymdrech pellach i fynd i’r afael â’r mudiad,” meddai.

“Bydd angen ymdrech rhyngwladol am flynyddoedd i ddod. Maen nhw’n gobeithio cryfhau unwaith eto yn y dyfodol. Mae’r bygythiad yn debygol o barhau.”

Rwsia

Yn ogystal â thrafod bygythiad y mudiad brawychol hwn, cyfeiriodd Andrew Parker at “fygythiadau a gweithredoedd ymosodol rhai gwladwriaethau.”

Yn benodol, mi gyhuddodd Rwsia o dwyllo’r byd â “chelwyddau noeth” tros fater ymosodiad nwy Salisbury – Moscow oedd tu ôl i’r digwyddiad hwnnw, yn ôl Llywodraeth San Steffan. Mae Rwsia wedi gwadu bod yn gysylltiedig a’r ymosodiad ar Sergei Skirpal a’i ferch Yulia.