Mae ymchwil i ganser yr ymennydd wedi cael hwb yn dilyn marwolaeth y Fonesig Tessa Jowell ddydd Sadwrn.

Daeth y buddsoddiad ychwanegol gan y Llywodraeth ar ôl i’r cyn-Aelod Seneddol Llafur ymgyrchu am ragor o adnoddau i fynd i’r afael a’r clefyd a mynediad at driniaethau newydd.

Fe fydd yr arian tuag at ymchwil i ganser yr ymennydd – Tessa Jowell Brain Cancer Research Mission – yn cael ei ddyblu i £40 miliwn dros y pum mlynedd nesaf.

Roedd Tessa Jowell, 70 oed, wedi gwneud y cais yn ystod cyfarfod a’r Prif Weinidog Theresa May a’r Ysgrifennydd Iechyd Jeremy Hunt yn Downing Street ym mis Chwefror.

Dywedodd Theresa May bod Tessa Jowell wedi “wynebu ei salwch gydag urddas a dewrder” a’i bod yn gobeithio bod y camau sy’n cael eu cymryd nawr yn helpu miloedd o deuluoedd eraill.

Cafodd y Fonesig Tessa Jowell waedlif ar yr ymennydd ddydd Gwener a bu farw ddydd Sadwrn (Mai 12) ar ôl bod mewn coma. Cafodd hi wybod y llynedd bod ganddi diwmor ar ei hymennydd.

Yn gyn-Weinidog Diwylliant yn San Steffan, roedd hi’n flaenllaw yn yr ymgyrch i ddenu’r Gemau Olympaidd i Lundain yn 2012.