Mae disgwyl i ddegau o filoedd o bobol ymgynnull yng nghanol Llundain heddiw i alw am ddiwygio hawliau gweithwyr a gwasanaethau cyhoeddus.

Hon fydd y brotest fwyaf ers rhai blynyddoedd.

Cyngres yr Undebau Llafur sydd wedi trefnu’r digwyddiad sy’n galw am godi’r isafswm cyflog, gwahardd cytundebau oriau sero a rhoi mwy o gyllid i’r Gwasanaeth Iechyd, addysg a gwasanaethau cyhoeddus eraill.

Mae disgwyl i arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn annerch y dorf.

Gwasgfa

Mae Cyngres yr Undebau Llafur wedi cyhoeddi data sy’n arwydd o’r wasgfa fwyaf ar gyflogau yn yr oes sydd ohoni.

Mae cyflogau, yn nhermau real, £24 yr wythnos yn llai nag yr oedden nhw yn 2008. Does dim disgwyl iddyn nhw godi i’r lefel yr oedden nhw cyn y dirwasgiad tan 2025.

Fe fydd pob gweithiwr, ar gyfartaledd, wedi colli £18,500 o’u cyflogau erbyn 2025, yn ôl amcangyfrifon.