Mae pobol a fydd yn mynd i wylio priodas y Tywysog Harri a Meghan Markle yr wythnos nesa’ wedi’u cynghori i “wisgo’n ddoeth”.

Mi fydd y briodas frenhinol ar Fai 19 yn cael ei chynnal yn Eglwys Castell Windsor, ac mae’r awdurdodau lleol wedi dweud wrth bobol i wisgo ar gyfer “diwrnod hir yn yr awyr agored”.

“Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo’n ddoeth os ydych chi’n teithio  i weld y briodas frenhinol – mi fydd yn ddiwrnod hir yn yr awyr agored,” meddai Cyngor Bwrdeistref Brenhinol Windsor a Maidenhead mewn neges ar wefan Twitter.

Cau ffyrdd

 Mae’r cyngor lleol hefyd yn dweud y bydd modd i bobol wylio’r pâr yn fuan ar ôl y briodas, wrth iddyn nhw orymdeithio mewn cerbyd ar hyd strydoedd Windsor.

Mi fydd ffyrdd yn cael eu cau yng nghanol y dre’r noson gynt, gyda rhagor o ffyrdd wedyn yn cau o chwech y bore ymlaen ar y diwrnod ei hun.