Mae dyn ddyn wedi’u harestio mewn cysylltiad â thwyll treth gwerth miliynau o bunnoedd.

Fe gafodd y dynion eu dwyn i’r ddalfa yn Glasgow fel rhan o ymchwiliad gan Gyllid a Thollau ei Mawrhydi (HMRC) i’r twyll o £12m yn ymwneud â Threth Ar Werth (VAT).

Mae nifer o eitemau – yn cynnwys ffonau symudol, cyfrifiaduron a gliniaduron – hefyd wedi’u cymryd i gael eu harchwilio.

Mae dau ddyn, 60 a 45, wedi’u harestio ar amheuaeth o osgoi talu TAW.