Mae gwyddonydd a oedd yn “difaru” byw i 104 oed, wedi marw mewn clinig ewthanasia yn y Swisdir.

Fe ddaeth y cadarnhad o’r sefydliad yn Liestal ger Basel, i’r Dr David Goodall farw’n dawel am 11.40yb heddiw (dydd Iau, Mai 10). Roedd wedi trefnu bod Nawfed Symffoni y cyfansoddwr Beethoven yn chwarae pan gafodd ei chwistrellu â dos farwol o gyffur cwsg.

Fe dreuliodd y botanegydd y rhan fwya’ o’i yrfa yn Awstralia, er mai yn Lloegr y cafodd ei eni a’i fagu. Fe dreuliodd ddoe yn edmygu’r planhigion tra ar ymwelid â gardd fotaneg yn y Swistir.

Neithiwr, fe fwynhaodd ei hoff bryd bwyd – pysgod a sglodion – mewn gwesty, cyn cyrraedd y clinig erbyn 11yb heddiw.

 

Roedd nifer o aelodau ei deulu yn cadw cwmni iddo wrth iddo gymryd a gweithredu ei benderfyniad i derfynu ei fywyd.