Fe fydd Boris Johnson yn ymddangos ar un o hoff raglenni teledu Donald Trump yn America mewn ymdrech i achub cytundeb niwclear Iran.

Mae’r Ysgrifennydd Tramor wedi teithio i’r Unol Daleithiau fel rhan o ymdrech olaf i ddwyn perswâd ar Donald Trump i beidio cefnu ar y cytundeb rhyngwladol.

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau wedi bod yn feirniadol iawn o’r cytundeb sy’n golygu bod y sancsiynau yn erbyn Tehran yn cael eu llacio yn gyfnewid am ymrwymiad i roi’r gorau i’w rhaglen arfau niwclear.

Fe fydd Donald Trump yn penderfynu ar Mai 12 a fydd yn ail-osod y sancsiynau gan roi’r  cytundeb yn y fantol.

Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Tramor ymddangos ar raglen newyddion Fox & Friends sy’n cael ei gwylio’n rheolaidd gan Donald Trump.

Yn ystod ei ymweliad fe fydd Boris Johnson hefyd yn cwrdd ag uwch-swyddogion gan gynnwys yr is-lywydd Mike Pence a’r ymgynghorydd diogelwch John Bolton.

Mewn erthygl yn y New York Times, mae Boris Johnson wedi cyfaddef bod yna wendidau i’r cytundeb ond mae’n dweud mai dyma’r cytundeb sydd a’r lleiaf o anfanteision ac y byddai’n “gamgymeriad” i gefnu arno rŵan.