Mae’r heddlu yn Llundain yn ymchwilio i bedwar achos o saethu o fewn 24 awr.

Cafodd Rhyhiem Ainsworth Barton, 17 oed, ei saethu’n farw yn Kennington yn Llundain lai na 24 awr cyn i ddau fachgen arall yn eu harddegau – un yn 13 oed – gael eu saethu yn ystod y dydd.

Cafodd y bachgen 13 oed anaf i’w ben ac o fewn munudau, cafodd bachgen arall 15 oed ei anafu mewn ymosodiad gyda gwn yn Wealdstone in Harrow. Mae’r ddau yn parhau yn yr ysbyty ond dywedodd yr heddlu nad yw eu hanafiadau yn rhai sy’n peryglu eu bywydau. Maen nhw’n ymchwilio i geisio darganfod os oes cysylltiad rhwng y ddau ddigwyddiad.

Cafodd dyn 43 oed ei drywanu yn Perivale, yng ngogledd orllewin Llundain tua 9yh nos Sul, ar ôl anghydfod ynglŷn â’r modd yr oedd yn gyrru.

Ac yn Hackney cafodd dau ddyn, 22 a 27 oed, a llanc 17 oed eu hanafu yn dilyn ymosodiad gyda “sylwedd gwenwynig” am 5.20yb ddydd Sul yn dilyn anghydfod rhwng dau grŵp.

Toc cyn 6.30yh nos Sul cafodd yr heddlu eu galw i dde ddwyrain Llundain lle’r oedd dyn 22 oed wedi cael ei anafu ar ôl cael ei saethu. Mae e mewn cyflwr sefydlog yn yr ysbyty.

Mae’r heddlu wedi dweud y bydd rhagor o blismyn ar ddyletswydd ar ddydd Llun Gŵyl y Banc er mwyn cadw’r strydoedd yn ddiogel. Nid oes unrhyw un wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r saethu hyd yn hyn.

Yn y cyfamser yn Lerpwl a Luton dros y penwythnos bu farw dau ddyn 20 oed ar ôl cael eu trywanu. Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw’r dyn 20 oed a gafodd ei drywannu yn Lerpwl – roedd Fatah Warsame yn dod o ardal Caerdydd. Cafodd ei gludo i’r ysbyty ond bu farw o’i anafiadau.

Llofruddiaethau

Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau treisgar yn Llundain wrth i’r heddlu ymchwilio i fwy na 60 o achosion o lofruddiaeth honedig hyd yn hyn eleni.

Mae ystadegau swyddogol a gafodd eu cyhoeddi ym mis Ebrill yn dangos bod nifer y llofruddiaethau yn Llundain wedi cynyddu 44% yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.