Mae miloedd o Albanwyr wedi bod yn gorymdeithio drwy Glasgow yn galw am annibyniaeth i’w gwlad.

Mudiad o’r enw All Under One Banner yw’r trefnwyr a’u bwriad yw cynnal cyfres o ddigwyddiadau rheolaidd i hyrwyddo’u hachos.

Mae hyd at 40,000 o ddynion, merched a phlant wedi cymryd rhan yn yr orymdaith heddiw rhang Kelvingrove a Glasgow Green yn y ddinas, llawer ohonyn nhw wedi eu lapio ym maneri Saltire yr Alban.

Mae’r trefnwyr yn hyderus bod cefnogaeth i annibyniaeth ar gynnydd yn y wlad, ac y gallai ail refferendwm gael ei hennill. Pleidleisiodd pobl yr Alban o 55% i 45% yn erbyn annibyniaeth yn y bleidlais ddiwethaf yn 2014.