Mae undeb yn cynghori miloedd o dechnegwyr a newyddiadurwyr y BBC i dderbyn cytundeb cyflog newydd.

Bu undeb Bectu yn trafod gyda’r Gorfforaeth am bron i ddwy flynedd, er mwyn sicrhau codiadau cyflog o 2% ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol, 2% arall yn y flwyddyn ganlynol, a 2.5% arall yn 2019/20 – neu hyd yn oed mwy os yw cost y drwydded deledu yn cynyddu.

Byddai cyflog y rhai sy’n cael eu talu lleiaf yn y BBC yn cynyddu o £15,687 i £20,000, yn ôl Bectu.

Mae sefyllfa ariannol y BBC yn “hynod fregus”, meddai ysgrifennydd cenedlaethol Bectu, oherwydd ei bod yn mynd i orfod ysgwyddo’r baich o dalu am drwyddedau teledu pobol sy’n hŷn na 75.

Y Llywodraeth oedd sydd wedi bod yn cyfro’r costau hyd yma.

Yn ôl Bectu fe fydd y faich ariannol newydd yma yn golygu bod gan y BBC 20% yn llai o incwm o’r drwydded.

Bydd aelodau’r undeb yn cael bwrw pleidlais ar y cytundeb cyflog newydd ar Fai 21.