Mae canlyniadau etholiadau cynghorau sir Lloegr yn dal i ddod ac mae wedi profi i fod yn noson gymysg i Lafur a’r Ceidwadwyr.

Mae’r ddwy blaid wedi colli rheolaeth ar gynghorau pwysig, gyda Llafur yn colli rhai o’i phrif dargedau.

Ond roedd y blaid wedi cipio cyngor Plymouth yn ôl a Trafford, yr unig gyngor Ceidwadol yn ardal Manceinion.

Er iddi gipio pleidleisiau ar gyngor Kensington a Chelsea, doedd hynny ddim yn ddigon i reoli’r cyngor.

Roedd Llafur wedi gobeithio gwneud yn dda ar y cyngor hwnnw yn dilyn y feirniadaeth chwyrn ar yr awdurdod Ceidwadol wedi trychineb Tŵr Grenfell.

Collodd y blaid reolaeth ar gyngor Derby, gydag arweinydd y cyngor yn colli ei sedd i’r ymgeisydd UKIP.

Gwnaeth y Ceidwadwyr yn dda mewn rhai cynghorau, fel Basildon yn Essex, ar ôl i’r blaid ennill rheolaeth yno, gan fanteisio ar dranc UKIP yn yr etholaeth.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ennill cyngor Richmond, gyda digon o fwyafrif i reoli. Dywedodd y blaid bod hi wedi bod yn “noson wych” iddyn nhw.

Mae’r rhan fwyaf o ganlyniadau wedi’u cyhoeddi erbyn hyn.