Bydd gwyddonwyr yn Lloegr yn ymchwilio i effaith plastig ar greaduriaid y môr, yn sgil buddsoddiad £200,000 gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Daw hyn wedi i waharddiad gael ei gyflwyno ar ddeunydd cosmetig sy’n cynnwys darnau mân iawn o blastig – microplastics neu microbeads yn Saesneg.

Mae’n debyg bod y darnau yma yn medru cwympo i lawr draeniau, a chyrraedd moroedd y byd yn y pendraw. Pryder arall yw bod darnau plastig ar deiars a dillad yn cyfrannu at y broblem.

“Rhwystro”

“Trwy gyfuno’r [data sydd ar gael] gyda’n hymchwiliad ni, gobeithiwn cawn syniad gwell ynglŷn ag o le daw’r microplastigau yma,” meddai’r Athro Richard Thompson o Brifysgol Plymouth.

“Yna, bydd modd i ni ddefnyddio ein canfyddiadau i weithio â’r Llywodraeth, gwyddonwyr, a diwydiant, er mwyn ceisio rhwystro’r darnau yma rhag cyrraedd ein moroedd.”