Fe fydd deddfwriaeth Brexit yn dychwelyd i Dy’r Arglwyddi heddiw gydag adroddiadau’n awgrymu y bydd arglwyddi yn ceisio sicrhau pleidlais i Aelodau Seneddol ar ffurf derfynol y cytundeb gyda Brwsel.

Petai hynny’n digwydd, mi fyddai’n rhwystro gwledydd Prydain rhag gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb â Brwsel.

Yn ogystal, pe bai Aelodau Seneddol yn gwrthod cytundeb arfaethedig y Llywodraeth a’r Undeb Ewropeaidd, mi fyddai modd eu gorfodi i ailddechrau’r trafodaethau.

Bydd yr Arglwyddi yn ystyried y ddeddfwriaeth ddydd Llun (Ebrill 30).

Ymateb

Mae llefarydd Brexit Llafur, Syr Keir Starmer, wedi croesawu’r adroddiadau gan ddweud ei fod yn “dod â grym yn ôl i’r Senedd.”

Ond, mae’r Aelod Seneddol, Jacob Rees-Mogg, wedi cyhuddo’r Arglwyddi o “bardduo’u henwau eu hunain” trwy “wrthwynebu’r” Senedd.